Mae cwmni Peris a Corr, sy’n cael ei redeg gan Dyfrig Peris a Jennie Corr, yn fusnes argraffu â llaw a thecstilau ecogyfeillgar yn Eryri. Yr ydym wedi ymrwymo i redeg busnes ecogyfeillgar a chlir ei gydwybod ac yr ydyn ni’n gweithio’n barhaus i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd.
Rydyn ni’n cynnig gwasanaeth argraffu â sgrîn ag inciau dŵr, a gallwn argraffu ar grysau T, bagiau cynfas ayyb.
Rydyn ni hefyd yn creu amrywiaeth o decstilau a chardiau cyfarch â llaw.
Gwneir yr holl waith argraffu â llaw gan ddefnyddio inciau dŵr. Mae'r rhan fwyaf o gwmnïau sy'n argraffu â sgrîn yn defnyddio inciau plastisol sy'n cynnwys PVC a ffthaladau sy'n niweidiol i'r amgylchedd. Does dim cemegau gwenwynig yn yr inciau yr ydyn ni'n eu defnyddio, a does dim plwm na metelau trymion eraill ynddynt chwaith. Nid ydynt yn cynnwys cemegau sy'n teneuo'r osôn, megis cemegau CFC a HCFC, hydrocarbonau aromatig nac unrhyw doddyddion anweddol, a chan mai inciau dŵr ydynt gellir defnyddio dŵr yn hytrach na thoddyddion i lanhau'r sgriniau.
Mae’r holl grysau -T yr ydym yn eu cyflenwi yn nwyddau cydwybod clir, ac maent wedi’u gwneud naill ai o gotwm, cotwm organig, cotwm trosi'n organig neu fambŵ cynaliadwy. Cânt eu cynhyrchu gan Continental Clothing, sy'n aelod o'r Sefydliad Dillad Teg, sy'n bodoli er mwyn hybu amodau gwaith teg yn y diwydiant dillad.
Rydyn ni'n gwneud ein holl nwyddau â llaw, gan ddefnyddio deunydd organig. Mae ein holl gynlluniau yn cael eu hargraffu â sgrîn gan ddefnyddio inciau dŵr.
Mae ffermio cotwm 'confensiynol' yn defnyddio gwrteithiau a phlaladdwyr cemegol synthetig ac mae'n gyfrifol am lygru pridd a dŵr. Caiff cotwm organig ei dyfu heb blaladdwyr nac unrhyw sylweddau gwenwynig, felly mae’n diogelu'r amgylchedd, y boblogaeth a'r bywyd gwyllt lleol.
Mae plaladdwyr yn cael effaith ddifrifol ar iechyd ffermwyr a'r boblogaeth leol. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn amcangyfrif bod bron i 3 miliwn o weithwyr amaethyddol yn y byd datblygol yn cael eu gwenwyno gan blaladdwyr bob blwyddyn, a bod 18,000 ohonynt yn marw yn sgil hyn.
Caiff plaladdwyr eu prynu ar gredyd fel arfer, felly os bydd cnydau'r ffermwyr yn methu byddant mewn dyled. Maent hefyd yn lleihau ffrwythlondeb y pridd, felly bydd angen mwy o gemegau i annog cnydau i dyfu, a bydd hyn yn ei dro yn arwain at fwy o gostau i'r ffermwyr.
Rydyn ni'n gwneud ein gorau glas i gynhyrchu cyn lleied o wastraff â phosib. Mae unrhyw wastraff yr ydym yn ei gynhyrchu yn cael ei ailddefnyddio neu ei ailgylchu lle bynnag y bo modd, a chaiff unrhyw ddeunydd organig ei gompostio. Mae ein holl waith papur a chardiau cyfarch yn cael eu hargraffu ar bapur wedi'i ailgylchu ac yr ydym yn defnyddio deunyddiau pecynnu pydradwy neu wedi'u hailgylchu lle bynnag y bo modd.