Argraffu Crysau-t Bathodynnau

Gwasanaeth argraffu crysau-t

Rydyn ni'n cynnig gwasanaeth argraffu dillad â llaw gan ddefnyddio inciau dŵr.Mae'r rhan fwyaf o gwmnïau sy'n argraffu â sgrîn yn defnyddio inciau plastisol, sy'n cynnwys PVC a ffthaladau sy'n niweidio'r amgylchedd. Does dim cemegau gwenwynig yn yr inciau yr ydyn ni'n eu defnyddio, a does dim plwm na metelau trymion eraill ynddynt chwaith. Nid ydynt yn cynnwys cemegau sy'n teneuo'r osôn, megis cemegau CFC a HCFC, hydrocarbonau aromatig nac unrhyw doddyddion anweddol, a chan mai inciau dŵr ydynt gellir defnyddio dŵr yn hytrach na thoddyddion i lanhau'r sgriniau.


Mae’r inciau yr ydyn ni’n eu defnyddio wedi pasio safon Oekotex Dosbarth 1 felly maent yn ddiogel i’w defnyddio ar ddillad babanod.


Prisiau

Mae'r pris yn dibynnu ar nifer y crysau T sy'n cael eu hargraffu a nifer y lliwiau sydd eu hangen. I gyfrifo cyfanswm y gost bydd angen ichi gyfuno pris paratoi'r sgrîn, y pris argraffu a phris y dillad. Cysylltwch â ni i gael amcanbris unigol. Dim ond cwmni bach ydym ni, felly nid ydym yn codi TAW.


Paratoi’r Sgrîn

Bydd angen i ni baratoi sgrîn ar gyfer pob lliw sydd ei angen neu ar gyfer pob argraffiad ychwanegol ar y dilledyn:
hyd at A4, £20 y sgrîn.
hyd at A3, £25 y sgrîn.


Argraffu

Dyma’r prisiau ar gyfer pob argraffiad un-safle ar y dilledyn (pris fesul dilledyn yw’r pris a welwch).

Nifer
o grysau
1 lliw 2 liw 3 lliw 4 lliw
10+ £3.00 £4.00 £4.90 £5.80
25+ £2.10 £3.00 £3.80 £4.60
50+ £1.40 £2.10 £2.80 £3.50
100+ £1.00 £1.70 £2.30 £2.90
200+ £0.90 £1.50 £2.10 £2.60
500+ £0.85 £1.30 £1.90 £2.40

Cysylltwch â ni i gael prisiau argraffu mwy o ddillad na hyn.
Rhaid archebu o leiaf 10 dilledyn i argraffu arnynt.


Gwaith celf

Mae gan y broses argraffu â sgrîn ei chyfyngiadau, felly wrth greu eich cynllun cofiwch ei bod yn anodd atgynhyrchu delweddau ffotograffig, llinellau mân a graddiant. Yr hyn sy'n gweithio orau yw delweddau cryf sydd â blociau solet o liw.


Maint

O ran maint, rhaid i'ch cynllun fod yn llai nag A3, a rhaid iddo hefyd ffitio ar y dilledyn. Bydd angen ichi ddangos ym mhle ar y dilledyn y mae angen argraffu'r cynllun – gallwch farcio'r lleoliad ar y templed hwn.


Lliw

Os oes mwy nag un lliw yn eich cynllun, bydd angen gwahanu'r lliwiau. Os gallwch wneud hyn eich hun, yna anfonwch eich cynllun atom gyda haenau neu ffeiliau ar wahân ar gyfer pob lliw. Gallwn wneud gwaith gwahanu lliwiau syml am ddim, ond efallai y bydd yn rhaid inni godi tâl arnoch os yw'r gwaith gwahanu lliwiau yn fwy cymhleth. Ond, wrth gwrs, byddwn yn cysylltu â chi cyn gwneud unrhyw waith. Gallwn argraffu hyd at gyfanswm o bedwar lliw.


Bydd arnom angen gwybod hefyd pa liwiau yr ydych am eu hargraffu; gallwch ddisgrifio'r lliw e.e. coch llachar, glas tywyll. Os oes arnoch eisiau lliw mwy penodol, anfonwch ddelwedd CMYK, cyfeirnod CMYK, cyfeirnod lliw Pantone neu samplau atom, neu rhowch gopi o'ch cynllun yn y post, oherwydd gall lliwiau amrywio o'r naill fonitor i'r llall.


Testun

Gwnewch yn siŵr bod unrhyw destun yn eich cynllun yn cael ei drosi i amlinelliad neu'n cael ei blannu yn y gwaith celf.


Anfon ffeiliau.

Gallwch anfon eich ffeiliau atom ar ebost neu drwy'r post. Dyma'r fformatau y gallwn eu derbyn: JPEG, TIFF, PDF, PSD, Ai neu EPS. Gwnewch yn siŵr bod cydraniad y ddelwedd yn 300dpi.


Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes angen unrhyw gymorth arnoch.

Uk Eco Printing water-based ink Eco friendly screen printing North Wales t-shirt printing North West T-shirt Printing blades