Gwasanaeth argraffu crysau-t eco-gyfeillgar.
Rydyn ni'n cynnig gwasanaeth argraffu dillad â llaw gan ddefnyddio inciau dŵr.Mae'r rhan fwyaf o gwmnïau sy'n argraffu â sgrîn yn defnyddio inciau plastisol, sy'n cynnwys PVC a ffthaladau sy'n niweidio'r amgylchedd. Does dim cemegau gwenwynig yn yr inciau yr ydyn ni'n eu defnyddio, a does dim plwm na metelau trymion eraill ynddynt chwaith. Cliciwch am fwy o wybodaeth.