Cwestiynau Cyffredinol

Oes gennych chi isafswm o eitemau y gellir eu cynhyrchu ar y tro?

+

Y nifer lleiaf y gellir ei argraffu ar y tro yw 20 eitem, ar gyfer print un lliw. Rhaid argraffu pob eitem gyda'r un dyluniad ac inc o’r un lliw. Dydi hi ddim yn bosibl argraffu bagiau tote a chrysau-t gyda’i gilydd.

Pa mor hir y bydd yn ei gymryd i anfon fy archeb?

+

el arfer byddwch yn ei derbyn tua 7-10 diwrnod gwaith o'r adeg y cymeradwywyd eich gwaith celf ac y derbyniwyd y taliad.  Os oes angen eich eitemau arnoch ar frys, efallai y byddwn yn gallu eich ffitio i mewn yn dibynnu ar ein llwyth gwaith a pha mor gymhleth yw’r gwaith argraffu. Bydd tâl ychwanegol am derfynau amser byr.

Ydych chi'n argraffu samplau?

+

Dydyn ni ddim yn argraffu samplau, oherwydd yr amser a dreulir yn paratoi’r peiriant argraffu a faint o inc a gaiff ei wastraffu. Y nifer lleiaf y gellir ei argraffu ar y tro yw 20 eitem.

Pryd ydw i'n talu am fy archeb?

+

Bydd angen talu’n llawn am bob archeb ymlaen llaw trwy BACS os yw’n bosibl. Ar ôl i ni gael eich gwaith celf a gwybod faint o eitemau sydd eu hangen byddwn yn anfon anfoneb a phroflen atoch. Mae’r amser arweiniol yn dechrau o’r adeg y derbynnir y taliad ac y cymeradwyir eich proflen.

Sut bydd fy archeb yn cael ei hanfon?

+

Rydyn ni’n defnyddio APC neu Parcelforce ar gyfer y rhan fwyaf o archebion sy’n cael eu cludo yn y DU. Bydd angen llofnodi ar gyfer nwyddau wrth iddynt gyrraedd. Bydd cost cludo yn ddibynnol ar faint eich archeb, byddwn yn cynnwys costau postio yn ein dyfynbris. 

Oes gennych chi fwy o ddillad na'r rhai a ddangosir ar eich gwefan?

+

Oes, gallwn gael gafael ar amrywiaeth eang o ddillad, cysylltwch â ni os ydych yn chwilio am eitem neu frand penodol a gallwn anfon ein catalog llawn atoch. 

Alla i anfon fy nillad fy hun atoch?

+

Gallwch, ond holwch ni yn gyntaf i wneud yn siŵr eu bod nhw’n addas i ni eu sgrin-brintio. Byddwn yn cymryd gofal mawr wrth argraffu eich dillad ond nid ydym yn gyfrifol am amnewid neu roi ad-daliad am unrhyw ddillad sydd wedi'u difrodi neu gam-argraffu. Rydyn ni’n codi tâl am hyn fesul dilledyn - £0.50 am grys-t, a £1.00 am hwdis a chrysau chwys.

Alla i weld sampl o'r dilledyn i’w argraffu cyn archebu?

+

Gallwch, gallwn archebu sampl i chi. Rydyn ni’n codi tâl am samplau ac ni ellir rhoi ad-daliad, ond gallwch eu dychwelyd atom i gael eu cynnwys yn eich rhediad argraffu. 

Allwch chi argraffu enwau neu rifau unigol ar bob dilledyn?

+

Na allwn, nid ydym yn cynnig y gwasanaeth hwn. Y dewis gorau ar gyfer enwau unigol fyddai trosglwyddiadau finyl neu DTG.

Ym mha fformat mae angen y gwaith celf arnoch chi?

+

Mae'n well gennym ni ffeiliau fector (ai, pdf neu eps) ond gallwn hefyd dderbyn delweddau rastr fel delweddau jpg neu tiffs cydraniad uchel. Rhaid gosod pob delwedd rastr i faint print a bod o leiaf 300dpi. Rhaid trosi pob ffont yn eich gwaith celf i amlinelliadau. Os oes angen unrhyw help arnoch gyda'r gwaith celf rhowch wybod i ni.

Sut ydw i'n anfon y gwaith celf atoch?

+

Os yw eich ffeil yn fach, anfonwch y ffeil atom yn uniongyrchol trwy e-bost - info@perisandcorr.com. Os yw'r ffeil dros 10MB anfonwch eich gwaith celf gan ddefnyddio www.wesendit.com

Pam nad ydw i wedi derbyn fy archeb lawn?

+

Weithiau gall nam yn ystod y broses weithgynhyrchu ddigwydd heb i ni sylwi arno nes i ni ddechrau argraffu eich dillad. Gall camargraffu ddigwydd hefyd wrth sgrin-brintio, os oes dillad ar goll o'ch archeb byddwn yn trefnu ad-daliad.

Am ba mor hir ydych chi'n cadw'r sgriniau?

+

Rydyn ni’n cadw eich gwaith celf ar y sgriniau am dri mis. Cost sgriniau yw £22.50 yr un (+TAW), i gael rhagor o’r un dyluniad ar ôl i'r tri mis fynd heibio y gost fydd £15 (+TAW).

Pam ydych chi'n codi mwy am rai inciau?

+

Mae inciau neon a metelig yn ddrutach nag inciau safonol. Rydyn ni’n codi 30% yn fwy am argraffu gyda'r inciau hyn.