Mae Peris & Corr yn fusnes argraffu a sgrin eco‑gyfeillgar sy’n gweithio o’i stiwdio yn Nyffryn Nantlle. Rydym yn arbenigo mewn argraffu â llaw ar ddillad o ffynhonnell foesegol, gan ddefnyddio inciau â sylfaen dwr o ansawdd uchel.

mynwch dDyfynbris +Mwy o wybodaeth +

Inc â sylfaen dwr sy'n eco‑gyfeillgar

Rydyn ni wedi dewis argraffu’n unig gydag inciau dwr heb hydoddyddion a heb unrhyw gemegau gwenwynig ynddyn nhw. Dydi’r inciau a ddefnyddiwn ddim yn cael eu profi ar anifeiliaid nac yn cynnwys unrhyw gynhyrchion anifeiliaid.

MWY o Wybodaeth +

Dillad wedi'u gwneud mewn dull moesegol

Rydyn ni’n arbenigo mewn argraffu ar ddillad o ansawdd uchel o ffynonellau moesegol wedi'u gwneud o gotwm organig ardystiedig a ffabrigau cynaliadwy eraill.

MWY o Wybodaeth +

Sut i Archebu

01/
Dyfynbris

Er mwyn rhoi dyfynbris cywir i chi ar gyfer eich archeb, bydd angen i ni weld eich gwaith celf, a chael syniad bras o faint o eitemau yr hoffech eu hargraffu.

Y nifer lleiaf y gellir ei argraffu ar y tro yw 20 eitem, a gallwn argraffu hyd at bedwar lliw.

02/
Proflenni

Unwaith y byddwch yn cymeradwyo'r dyfynbris byddwn yn paratoi proflenni o'ch dillad ac yn anfon eich anfoneb.

Ar ôl i'ch proflen gael ei chymeradwyo ac ar ôl derbyn eich taliad bydd eich archeb yn cael ei chynhyrchu.

03/
Argraffu

Gan ddefnyddio'r manylion o'r broflen a gymeradwywyd byddwn yn archebu eich dillad, yn dinoethi eich sgriniau, yn cymysgu eich inciau ac yn mynd ati i argraffu.

Yna gwneir unrhyw fanylion gorffenedig e.e. gwaith argraffu y tu mewn i’r gwddf, bagiau bio.

04/
Dosbarthu

Bydd eich eitemau’n cael eu harchwilio'n ofalus cyn cael eu pacio yn barod i'w hanfon.

Bydd yr holl archebion yn cael eu cludo trwy negesydd neu gallwch eu nôl o'n stiwdio.

Unrhyw gwestiynau?

Cwestiynau +
Cysylltwch +
Instagram +